Ymchwiliad i'r Bil Tai (Cymru)

 

Adborth i bobl ddigartref a'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr a gymerodd rhan mewn grwpiau ffocws

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynnig ar gyfer deddfwriaeth yn dwyn y teitl y Bil Tai (Cymru). Mae'r Llywodraeth yn gobeithio y bydd yn gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl ddigartref ac yn arwain at fwy o safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn y rhannau o Gymru lle mae eu hangen.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i'r Bil i benderfynu pa un a oedd yn syniad da, ac a oedd yn debygol o arwain at y newidiadau y bwriadwyd iddo achosi. Gofynnodd y Pwyllgor i bobl a oedd â diddordeb i gysylltu ag ef yn ysgrifenedig, a gwahoddodd rhai o'r bobl hynny i siarad am y Bil gydag Aelodau'r Cynulliad mewn cyfarfodydd swyddogol yn y Senedd. Roedd y Pwyllgor hefyd am sicrhau fod pobl ddigartref a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael cyfle i ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad beth oedd eu barn am y newidiadau yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu hawgrymu yn y Bil. Cynhaliodd staff y Cynulliad bum grŵp ffocws ledled Cymru gyda chyfanswm o 40 o bobl ddigartref, a thri grŵp ffocws gyda chyfanswm o 24 aelod o gymunedau sipsiwn a theithwyr.

 

Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu adroddiad gydag argymhellion i Weinidog Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant AC, yn awgrymu sut y gellid gwella'r Bil. Rydym eisiau rhannu'r argymhellion hyn gyda chi, a gadael ichi wybod am effaith cyfraniadau gan y grwpiau ffocws hyn.

 

Effaith y grwpiau ffocws ar y gwaith o graffu ar y Bil Tai (Cymru)

Cododd y Pwyllgor lawer o'r pwyntiau a godwyd yn y grwpiau ffocws gyda'r tystion yn ystod ei sesiynau tystiolaeth. Roedd y tystion hyn yn cynnwys Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros dai ac adfywio. Chwaraeodd y grwpiau ffocws rôl bwysig, a chafodd hyn ei gydnabod gan gadeirydd y Pwyllgor, Christine Chapman AC, pan siaradodd yn y ddadl a gynhaliwyd yn y Cynulliad ar 1 Ebrill 2014:

 

"Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth, yn ogystal â’r rheini sy’n cynrychioli cymunedau Sipsiwn a Theithwyr a phobl ddigartref a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws; helpodd pob un ohonynt i lywio ein gwaith ar y Bil."

 

Dyma rai o'r pwyntiau a gododd yn y grwpiau ffocws ac y cyfeiriodd y Pwyllgor atynt yn ystod y sesiynau tystiolaeth ac a arweinodd at argymhellion i newid y Bil.

 

Agweddau ar y Bil sy'n ymwneud â digartrefedd

 

Hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat

Cododd cyfranogwr bryderon am beth fyddai'n digwydd i'r tenant os byddai cofrestriad landlord neu asiant yn cael ei ddiddymu. Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiwn hwn i'r Gweinidog a dywedodd na fyddai'n effeithio ar hawliau'r tenant. Fodd bynnag, teimlai'r Pwyllgor dylai'r Bil wneud hyn yn glir ac argymellodd:

 

"…bod y Gweinidog yn diwygio'r Bil i egluro sefyllfa gyfreithiol tenant mewn achosion lle mae trwydded neu gofrestriad ei landlord neu'i asiant wedi'u dirymu, neu wedi dod i ben a heb eu hadnewyddu gan yr awdurdod tai lleol."

 

Hyfforddiant ar gyfer staff digartrefedd awdurdodau lleol

Thema arall a gododd o'r grwpiau ffocws ar ddigartrefedd oedd yr angen i staff awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda phobl ddigartref gael eu hyfforddi'n ddigonol. Dywedodd un cyfranogwr fod angen iddynt fod yn wybodus ac yn brofiadol. Cytunodd y Pwyllgor a gwnaeth yr argymhelliad hwn:

 

"Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn diwygio'r Bil i wneud darpariaeth i swyddogion tai awdurdodau lleol gael hyfforddiant achrededig i'w cynorthwyo i oresgyn yr heriau sy'n gysylltiedig â gweithredu Rhan 2 o'r Bil yn effeithiol."

 

Statws angen blaenoriaethol

Er bod nifer o gyfranogwyr yn teimlo fod angen cynnal y system bresennol o "angen blaenoriaethol" wrth fynd i'r afael â digartrefedd, teimlai eraill fod hyn yn golygu nad oedd hawl gan lawer o bobl i gymorth ystyrlon. Nododd un cyfranogwr fod y bobl nad oeddent ag angen blaenoriaethol yn syrthio drwy'r rhwyd. Dywedodd cyfranogwr arall fod rhwystrau yn codi cyn gynted ag y byddwch yn sôn eich bod yn sengl. Nid oedd y Pwyllgor yn credu y gellid diddymu'r angen blaenoriaethol ar hyn o bryd, ond roedd yn credu y dylai'r Gweinidog ystyried gwneud hyn yn y dyfodol ac argymhellodd:

 

"…bod y Gweinidog yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law ynghylch ymarferoldeb dileu statws angen blaenoriaethol yn raddol."

 

Tenantiaethau sector preifat ar gyfer pobl a fu'n ddigartref

Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo nad oedd tenantiaeth o chwe mis yn y sector preifat yn ddigon hir i berson sydd wedi bod yn ddigartref. Dywedodd un cyfranogwr fod tenantiaeth o chwe mis yn cynnig ychydig iawn o sefydlogrwydd neu dim o gwbl. Dyna oedd teimladau y rhan fwyaf o aelodau'r Pwyllgor hefyd a gwnaed argymhelliad y dylai unrhyw denantiaeth yn y sector rhentu preifat a gaiff ei gynnig i berson digartref fod am o leiaf 12 mis. Cododd cyfranogwyr eraill safonau llety yn y sector, gydag un yn dweud y dylai llety fod o safon ac ansawdd digonol. Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion hyn i fynd i'r afael â'r pryderon hynny:

 

"Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn diwygio adran 59(4) i gynnwys darpariaeth i sicrhau bod unrhyw gynnig o denantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i geisydd yn gynnig am dymor penodedig o 12 mis o leiaf."

 

"Rydym yn argymell bod y canllawiau o dan Ran 2 o'r Bil yn pennu disgwyliad o ran y safonau llety y dylid eu bodloni er mwyn i awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd digartrefedd yn y sector rhentu preifat."

 

Cefnogi anghenion tenantiaid a fu'n ddigartref

Siaradodd nifer o gyfranogwyr yn y grwpiau ffocws am yr angen am gymorth ar gyfer pobl a fu'n ddigartref i'w helpu i gadw eu llety. Gofynnodd y Pwyllgor i'r tystion am eu barn ar hyn, ac yn benodol pa un a fyddai'r Bil yn sicrhau bod anghenion pobl ddigartref a gaiff eu lletya yn y sector rhentu preifat yn cael eu bodloni. Yn ei adroddiad, dywedodd y Pwyllgor:

"...rydym yn teimlo‘n gryf y dylai llety yn y sector rhentu preifat a ddefnyddir at y diben hwn fod o safon resymol y dylai gyfateb yn agosach i‘r safon sydd ei hangen yn y sector tai awdurdodau lleol, ac y dylai ystyried anghenion cymorth unigolion."

 

Aeth y Pwyllgor ymlaen i wneud argymhelliad penodol yn y maes hwn:

 

"Rydym yn argymell bod y canllawiau o dan Ran 2 o'r Bil yn cynnwys darpariaeth glir ynghylch y cymorth y dylid ei ddarparu i geiswyr digartref sy'n mynd i lety rhent preifat, yn ogystal a'u landlordiaid, er mwyn galluogi'r ddwy ochr i ddeall eu priod hawliau a'u cyfrifoldebau."


 

Agweddau ar y Bil sy'n ymwneud â Sipsiwn a Theithwyr

 

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Roedd llawer o gyfranogwyr y grwpiau ffocws yn teimlo y dylai'r Bil ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol fod awdurdodau lleol yn ymgynghori â'r cymunedau Sipswn a Theithwyr pan yn asesu'r angen am safleoedd yn eu hardaloedd. Cytunodd y Pwyllgor a gwnaeth yr argymhelliad hwn:

 

"Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn diwygio adran 84(2) i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol ymgynghori'n uniongyrchol â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr wrth gynnal asesiad o anghenion llety."

 

Roedd llawer o gyfranogwyr yn amheus ynghylch effeithiolrwydd y broses gyfredol ar gyfer ymgynghori â'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Dywedodd un cyfranogwr fod y broses yn symbolaidd yn unig. Dywedodd cyfranogwyr eraill fod angen eiriolwr cryf ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr wrth iddynt ymdrin ag awdurdodau lleol. Roedd gan y Pwyllgor bryderon hefyd ynghylch y broses gyfredol o ymgynghori gyda Sipsiwn a Theithwyr, a gwnaed argymhelliad i wella hyn:

 

"Rydym yn argymell y dylai'r canllawiau a gyhoeddir o dan adran 89 ymdrin yn llawn â'r pryderon am effeithiolrwydd y broses asesu anghenion bresennol mewn perthynas â llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ac i ba raddau y mae'r asesiadau hyn yn adlewyrchu'n gywir y ddarpariaeth o ran safleoedd ac anghenion sydd heb eu diwallu."

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

 

Bydd y Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ystyried adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor cyn penderfynu a ddylid cytuno i'r newidiadau a awgrymwyd, a/neu gynnig newidiadau eraill (a elwir yn 'welliannau') i'r Bil. Gall Aelodau Cynulliad eraill hefyd gynnig newidiadau i'r Bil. Y cam nesaf i'r Pwyllgor yw ystyried unrhyw newidiadau arfaethedig a phenderfynu a ddylid eu gwneud i'r Bil. Bydd hyn yn digwydd ym mis Mai yn ystod cyfarfodydd cyhoeddus y Pwyllgor yn y Senedd.